Ys dywedodd Llywodraeth y DU, “Mae lled-ddargludyddion yn un o blith pump o dechnolegau’r dyfodol, ar y cyd â chwantwm, deallusrwydd artiffisial, bioleg peirianneg a thelathrebu’r dyfodol. Mae lled-ddargludyddion yn hollbwysig i ddiogelwch economaidd a chenedlaethol y DU, ac i’r fantais strategol y byddwn yn ei sicrhau ar y llwyfan byd-eang.” Mae Vishay yn dymuno cyfrannu at sicrhau’r dyfodol hwnnw.
Y diwydiant lled-ddargludyddion yw’r diwydiant mwyaf ond tri drwy’r byd, ar ôl cynhyrchu olew, y diwydiant modurol, a phuro a dosbarthu olew. Lled-ddargludyddion yw’r dechnoleg sydd wrth wraidd nifer o’r dyfeisiau a ddefnyddiwch yn eich bywyd bob dydd. Mae’r car arferol yn cynnwys hyd at 3,000 o led-ddargludyddion, ac mae sglodion Vishay i’w cael mewn pob mathau o bethau – o’r Mars Rover i’r ffôn clyfar yn eich poced. Yn ôl pob tebyg, fe fydd pob dyfais electronig y gallwch feddwl amdani yn cynnwys lled-ddargludydd.

Tynnodd y pandemig sylw at yr anawsterau o ran cyflenwi’r cydrannau hanfodol hynny, ac fe wnaeth y ‘prinder byd-eang mewn sglodion’ arwain at ohirio cynhyrchu pob mathau o bethau, o geir i gonsolau gemau.
Gan fod 90% o led-ddargludyddion uwch y byd yn cael eu gweithgynhyrchu yn Taiwan, mae yna gyfle gwych i Gymru a’r DU ategu llwybrau cyflenwi mwy amrywiol, gan amddiffyn diogelwch cenedlaethol ac ysgogi twf economaidd.

Heddiw, mae gweithgynhyrchwyr lled-ddargludyddion yn troi oddi wrth sglodion silicon tuag at fathau newydd, mwy effeithlon – sef ‘lled-ddargludyddion cyfansawdd’ sy’n defnyddio deunyddiau fel silicon carbid, galiwm nitrad, a galiwm ocsid o bosibl.
Mae’r cyfansoddion hyn yn galluogi lled-ddargludyddion i weithredu ar dymheredd uwch, gan esgor ar gyflymder sydd hyd at 100 gwaith yn gyflymach na sglodion traddodiadol. Yn ogystal â gwefru ynghynt, gallai hyn leihau straen ar y grid, ar adeg pan mae nifer cynyddol o gynhyrchion, canolfannau data a cherbydau trydan yn cael effaith fawr ar ein seilwaith ynni.

Disgwylir i’r farchnad fyd-eang mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd dyfu o $67 biliwn i $350 biliwn erbyn 2030 ac mae’r DU mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y twf hwnnw.
Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ein bwriad yw ymestyn Newport Wafer Fab yn sylweddol a chynyddu ei gapasiti cynhyrchu. Felly, bydd modd cynhyrchu miliynau o led-ddargludyddion a manteisio ar y galw domestig a byd-eang. Mae gan y safle botensial i wasanaethau amrywiaeth ehangach o sectorau yng Nghymru a’r DU, yn cynnwys y sector modurol, y sector diwydiant, y sector amddiffyn, y sector telathrebu a’r sector cyfrifiadura.
Mae prif economïau’r byd mewn ras i fuddsoddi symiau sylweddol o arian yn y gwaith o ddatblygu lled-ddargludyddion, er mwyn sicrhau cyflenwadau a manteision economaidd hirdymor. Mae’r Unol Daleithiau wedi addo $52 biliwn o gymorthdaliadau ar gyfer gweithgynhyrchu ac ymchwil, ac mae’r Undeb Ewropeaidd wedi llunio cynllun buddsoddi sy’n werth €43 biliwn ar gyfer y sector. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £1 biliwn o gymorth fel rhan o’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Lled-ddargludyddion.

Mae hyn yn creu ac yn cynnal llu o swyddi gweithgynhyrchu hynod fedrus ac uchel eu cyflog. Yn ôl astudiaeth o’r diwydiant a gynhaliwyd gan Oxford Economics, ar gyfer pob swydd yn y maes lled-ddargludyddion, caiff bron i chwech o swyddi ychwanegol eu creu mewn cadwyni cyflenwi ac yn yr economi ehangach.
Yn y tymor hir, credwn fod gan Newport Wafer Fab y potensial i esgor ar fuddion sylweddol i economi ehangach Casnewydd a Chymru.