Vishay Casnewydd

Ffynhonnell ddibynadwy a diogel o sglodion uwch

Cannoedd o filiynau o bunnoedd i roi hwb enfawr i'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru

March 2025
Mae disgwyl i GYMRU elwa o fuddsoddiad £250 miliwn gan un o weithgynhyrchwyr lled-ddargludyddion mwyaf y byd a fydd yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu cerbydau trydan, gan gynorthwyo Cynllun ar gyfer Newid y llywodraeth yn darparu swyddi medrus, a rhoi hwb enfawr i’r economi.
Bydd y Canghellor Rachel Reeves yn croesawu bwriad Vishay Intertechnology i fuddsoddi wrth ymweld â’u ffatri yng Nghasnewydd heddiw (dydd Iau 27 Mawrth) – cyfleuster lled-ddargludyddion mwyaf y DU – fel rhan o gynlluniau i ddatblygu gweithgynhyrchu dargludyddion cyfansawdd ar raddfa fawr yn y wlad.
Bydd y buddsoddiad yn rhoi hwb i gynhyrchu yn ffatri o’r radd flaenaf lle byd dyn gwneud lled-ddargludyddion Carbid Silicon, rhan annatod o gynhyrchu cerbydau trydan. Mae’r dechnoleg uwch hon yn cynorthwyo amser gwefru batri cyflymach, gan alluogi cyflenwad mwy effeithlon o ynni i’r modur a phellter gyrru hirach.
Disgwylir i fuddsoddiad Vishay gynorthwyo dros 500 o swyddi gwerth uchel a sgiliau uchel yn uniongyrchol yn yr ardal a chynorthwyo cannoedd yn rhagor yn anuniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi ehangach.
Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves MP:
“Dan y llywodraeth hon, mae’r DU yn agored i fusnes. Dyma’r union fath o fuddsoddiad a fydd yn ein helpu i dyfu’r economi, creu swyddi sgiliau uchel a chynyddu cyfleoedd i bobl ledled y wlad, wrth inni gyflawni ein Cynllun ar gyfer Newid i ddod â mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio.”

Business and Trade Secretary, Jonathan Reynolds MP said: 

“Mae hon yn bleidlais o hyder enfawr yn economi Cymru ac mae ein cynlluniau i wneud Prydain yn gyrchfan o ddewis i fuddsoddiadau yn niwydiannau’r dyfodol. Bydd yn cynorthwyo swyddi sgiliau lleol a chodi safonau byw, sy’n dangos bod ein Cynllun ar gyfer Newid yn gweithio.
“Bydd buddsoddiad Vishay yn helpu i sicrhau cyflenwad domestig o led-ddargludyddion sy’n hanfodol ar gyfer ein sector modurol arweiniol y byd a chynorthwyo ein diwydiannau ynni glân – sectorau ysgogi twf allweddol a nodwyd yn ein Strategaeth Ddiwydiant arfaethedig.”

Dywedodd Roy Shoshani, Prif Weithredwr Semiconductors a Phrif Swyddog Technoleg Vishay:

“Mae hwn yn amser cyffrous, ac yn ddechrau ein cynlluniau ar gyfer twf yn y DU. Gallwn weld drwy ddatblygiad y Strategaeth Ddiwydiannol a’r gweithlu medrus yng Nghasnewydd bod yna gyfle gwirioneddol i fanteisio ar gryfderau’r DU mewn lled-ddargludyddion uwch, gan ddarparu diogelwch economaidd uwch a chynorthwyo Sero Net.”

Dywedodd Mike Hawes, Prif Weithredwr AMMT:

“Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd yn gyfraniad enfawr i’r dechnoleg uwch ar arloesol sydd ei angen i ysgogi dyfodol diwydiant modurol y DU. Bydd lled-ddargludyddion y genhedlaeth nesaf a wneir ym Mhrydain yn creu swyddi, cynorthwyo cadwyni cyflenwi a gwella galluoedd strategol y DU. Mae digideiddio a datgarboneiddio wrth wraidd y trawsnewid sy’n digwydd ym maes gweithgynhyrchu modurol y DU, ac fe all y buddsoddiad hwn gynorthwyo’r trawsnewid hwnnw, gyda chymorth strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr i ddarparu’r twf mae’r sector a’r economi ei angen.”

Dywedodd Wyn Meredith, Cadeirydd CSconnected, Clwstwr Semiconductor Cymru:

“Mae’r buddsoddiad hwn yn bleidlais o hyder gwych yn ansawdd a gwytnwch gweithlu yn safle Wafer Fab Casnewydd, sydd wedi bod yn sylfaen i ddiwydiant lled-ddargludyddion y DU ers 1982. Ers ei lansio Clwstwr L$1 Cymru yn 1982, mae ein partneriaid wedi buddsoddi’n drwm mewn creu ecosystem ymchwil ac arloesedd byd-eang, gyda darpariaeth doniau medrus i fynd i’r afael â chyfle marchnad lled-ddargludyddion fydd y uwch na $1triliwn y flwyddyn erbyn 2030.  Mae chwaraewyr lled-ddargludyddion byd-eang fel KLA, Microchip, IQE, Vishay, a Cadence a gyhoeddwyd yn fwy diweddar, wedi cydnabod gwerth ein cynnig ac wedi ymrwymo mwy na £600 miliwn o fuddsoddiad i gynnal twf parhaus gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion yn ne Cymru.”

About Vishay

Vishay manufactures one of the world’s largest portfolios of discrete semiconductors and passive electronic components that are essential to innovative designs in the automotive, industrial, computing, consumer, telecommunications, military, aerospace, and medical markets. Serving customers worldwide, Vishay is The DNA of tech®. Vishay Intertechnology, Inc. is a Fortune 1,000 Company listed on the NYSE (VSH).  More on Vishay at www.Vishay.com.

Forward Looking Statement

Statements contained herein that relate to the Company’s future performance, including capital investment, capacity expansion and cash flow generation, are forward-looking statements within the safe harbor provisions of Private Securities Litigation Reform Act of 1995. Words and expressions such as “will,” “expect,” “focus,” “intend,” “committed, “goal” or other similar words or expressions often identify forward-looking statements. Such statements are based on current expectations only, and are subject to certain risks, uncertainties and assumptions, many of which are beyond our control. Should one or more of these risks or uncertainties materialize, or should underlying assumptions prove incorrect, actual results, performance, or achievements may vary materially from those anticipated, estimated or projected. Among the factors that could cause such material variations include: that the fab will not be integrated successfully into the Company’s overall business; that the expected benefits of the acquisition may not be realized; that the fab’s standards, procedures and controls will not be brought into conformance within the Company’s operation; difficulties in transitioning and retaining fab employees following the acquisition; difficulties in consolidating facilities and transferring processes and know-how; the diversion of our management’s attention from the management of our current business; risks of foreign operations, including excessive operation costs, labor shortages, changes in tax rates; changes in foreign currency exchange rates; uncertainty related to the effects of changes in foreign currency exchange rates; difficulties in new product development; changes in U.S. or foreign trade regulations and tariffs, and uncertainty regarding the same; changes in applicable domestic and foreign tax regulations, and uncertainty regarding the same; and other factors that are set forth in our filings with the Securities and Exchange Commission, including our annual reports on Form 10-K and our quarterly reports on Form 10-Q. We undertake no obligation to publicly update or revise any forward-looking statements, whether as a result of new information, future events or otherwise.

The DNA of tech® is a trademark of Vishay Intertechnology.