Dim Sero Net heb Led-ddargludyddion Cyfansawdd
Yn Vishay Casnewydd, rydym yn datblygu llinellau cynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd uwch. Gyda pherfformiad llawer gwell, mae gan y sglodion hyn lwyth o gymwysiadau ar draws diwydiannau:
Mae mwy na 95% o’r dechnoleg sy’n cael ei datblygu yn y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru yn cael ei allforio i bob cwr o’r byd.
Cydnabyddir bod De Cymru yn hwb byd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd a all ategu diwydiannau sydd ar flaen y gad. Ni all yr un rhanbarth arall drwy’r byd gynnig yr un gallu â Chasnewydd o ran cynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Bydd ein buddsoddiad yn cefnogi mwy na 500 o swyddi medrus sy’n talu cyflog uwch na’r cyfartaledd, yn ogystal â channoedd yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi ehangach.
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol Casnewydd a de Cymru. Mae ein harloesedd yn cael ei sbarduno drwy ein partneriaethau gydag ymchwilwyr yng Nghaerdydd, Abertawe, PDC a Phrifysgol Warwick a chyda CSconnected, sef clwstwr o gwmnïau yn ne Cymru sy’n sicrhau’r genhedlaeth nesaf o led-ddargludyddion. Rydym yn cefnogi myfyrwyr PhD ac mae rhai o’r graddedigion hynny bellach yn gweithio yn y Cyfleuster. Rydym hefyd yn cefnogi myfyrwyr ysgolion cynradd a’r rhai sy’n gwneud prentisiaethau, yn ogystal â staff sy’n astudio gradd mewn peirianneg, hyd at radd meistr.
Fel y cyfleuster mwyaf yn y DU sy’n gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion, rydym yn agor drysau’r Cyfleuster ac yn gweithio gydag ymchwilwyr a gwyddonwyr yn y clwstwr lleol i’w cefnogi nhw i brofi technolegau newydd a chynorthwyo i’w cyflwyno i’r farchnad.
Yn arbennig, rydym yn falch o’n peirianwyr benywaidd sydd wedi ennill gwobrau, ac sydd wedi cael eu cydnabod am eu sgiliau a’u harloesedd. Mae ein rhaglen allgymorth arobryn gydag ysgolion lleol, mewn partneriaeth â Chlwb Rygbi’r Dreigiau, yn ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol – ac yn bwysig, genethod a merched ifanc – i ddilyn gyrfaoedd yn y sector STEM.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chwmnïau a phartneriaid lleol, gan gynnwys drwy CSconnected, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd blaenllaw yn ne Cymru. Mae tystiolaeth o wledydd eraill yn dangos bod pob swydd sy’n cael ei chreu yn y diwydiant lled-ddargludyddion yn creu bron i chwe swydd arall mewn cadwyni cyflenwi a diwydiannau cysylltiedig.
Ar ôl goroesi erledigaeth yn ddyn ifanc, sefydlodd Dr. Felix Zandman Vishay gyda diben: “Peidiwch â chymryd mantais o bobl eraill. Yr hyn sy’n bwysig yw sut yr ydych chi’n trin y person nesaf—cofiwch fod y rhod yn troi. Byddwch yn deg a byddwch yn gymwynasgar.” Rydym yn ymdrechu i roi’r gwerthoedd hyn ar waith – uniondeb, natur agored a chymryd cyfrifoldeb am bopeth a wnawn.
Mae Vishay wedi ymrwymo i fod yn gymydog da yng Nghasnewydd ac i weithio’n agos gyda chymunedau i sicrhau ein bod ni’n gweithredu mewn ffordd sy’n gynaliadwy, yn foesegol ac yn gyfrifol yn gymdeithasol. Wrth wraidd popeth a wnawn, rydym eisiau gwarchod yr amgylchedd a sicrhau iechyd a diogelwch ein gweithwyr, ein cwsmeriaid, ein hymwelwyr a’r cymunedau cyfagos.
Ynglŷn â Vishay
Mae Vishay yn gweithgynhyrchu un o bortffolios mwyaf y byd o ran lled-ddargludyddion arwahanol a chydrannau electronig goddefol sy’n hanfodol i ddyluniadau arloesol mewn marchnadoedd modurol, diwydiannol, cyfrifiadurol, defnyddwyr, telathrebu, milwrol, awyrofodol a meddygol. Gan wasanaethu cwsmeriaid ledled y byd, mae Vishay yn gyfystyr â DNA technoleg (DNA of tech®). Mae Vishay Intertechnology, Inc. yn Gwmni Fortune 1,000 a restrir ar Farchnad Stoc Efrog Newydd (VSH). Ceir rhagor o wybodaeth am Vishay ar www.Vishay.com.