Vishay Casnewydd yw cyfleuster mwyaf y DU ar gyfer gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion, ac mae’n rhan hollbwysig o glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd blaenllaw De Cymru.
Mae ein buddsoddiad parhaus yng Nghasnewydd yn anelu at gynnal mwy na 500 o swyddi hyfedr sy’n talu’n dda, gyda chyflogau uwchlaw’r cyfartaledd rhanbarthol, yn ogystal â channoedd o rolau ychwanegol ledled y gadwyn gyflenwi ehangach. Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cydnabod y cyfleoedd gwerthfawr hyn, yn cynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a ddywedodd fod Vishay yn cynnig “rhai o’r swyddi sy’n talu orau ledled De Cymru.”
Nid mewn technoleg yn unig y buddsoddwn – ond mewn pobl hefyd.
Buddsoddi mewn Swyddi, Sgiliau ac Arloesi
Bydd ein buddsoddiad arfaethedig o £250 miliwn, a ategir trwy gyfrwng partneriaeth gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, yn sicrhau safle cwbl ganolog i Gasnewydd yn sector lled-ddargludyddion a gweithgynhyrchu uwch y DU.
Fel un o’r ychydig safleoedd gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion yn y DU, gyda’r gallu i ehangu a chyflwyno technolegau newydd, yn cynnwys trosi pŵer lled-ddargludyddion cyfansawdd uwch, mae Vishay Casnewydd mewn sefyllfa unigryw i ddarparu’r genhedlaeth nesaf o sglodion effeithlon, uchel eu perfformiad.
Creu Cyfleoedd ar Bob Lefel
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu doniau lleol ac adeiladu llwybrau gyrfa hirdymor.
Gweithiwn yn agos gyda phrifysgolion lleol, gan gynorthwyo peirianwyr graddedig ac ymchwilwyr PhD, ac mae nifer ohonynt yn gweithio bellach yn ein safle gweithgynhyrchu.
Hefyd, rydym yn buddsoddi yn y canlynol:
Mae’r dull hwn yn sicrhau y gall pobl ifanc yng Nghasnewydd, a ledled De Cymru, gael gafael ar gyfleoedd gyrfa o’r radd flaenaf mewn technoleg a gweithgynhyrchu uwch.
Gweithio yn Vishay
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd sydd ar gael yn Vishay Casnewydd ar hyn o bryd, cymerwch gipolwg ar ein tudalen ‘gyrfaoedd’ yma.
About Vishay
Vishay manufactures one of the world’s largest portfolios of discrete semiconductors and passive electronic components that are essential to innovative designs in the automotive, industrial, computing, consumer, telecommunications, military, aerospace, and medical markets. Serving customers worldwide, Vishay is The DNA of tech®. Vishay Intertechnology, Inc. is a Fortune 1,000 Company listed on the NYSE (VSH). More on Vishay at www.Vishay.com.