Vishay Casnewydd

Ffynhonnell ddibynadwy a diogel o sglodion uwch

Hanes Newport Wafer Fab

Mae Newport Wafer Fab wedi bod ag wyth o wahanol berchnogion ers i’r cyfleuster gael ei adeiladu. Mae Vishay yn dymuno cynnig sefydlogrwydd a sicrwydd i’r cyfleuster, gan fuddsoddi dros y ddau ddegawd nesaf fan leiaf. Fel cwmni sydd â mwy na thrigain mlynedd o brofiad mewn gweithgynhyrchu ledled y byd, gyda ffatrïoedd tebyg yn Ewrop, rydym eisiau rhoi sicrwydd i’r gweithwyr ac i’r gymuned ynglŷn â’n hymrwymiad hirdymor i’r cyfleuster.

Llinell Amser

1980

Mae Inmos, cwmni lled-ddargludyddion o Brydain, yn comisiynu cyfleuster gweithgynhyrchu microbrosesyddion yng Nghasnewydd. Caiff y cyfleuster ei ddylunio gan Bartneriaeth Richard Rogers, ei adeilad cyntaf yng Nghymru.

1980
1984

Mae Thorn EMI yn prynu Inmos. Cwmni o Brydain yw Thorn EMI a grëwyd ar ôl uno Thorn Electrical Industries a grŵp cerddoriaeth EMI.

1984
1989

Mae Thorn EMI yn gwerthu Inmos i SGS Thomson Microelectronics, sef uwch-gwmni a leolir yn Ffrainc a’r Eidal.

1989
1999

Mae’r rheolwyr yn prynu’r ffatri. Caiff ei hailenwi yn European Semiconductor Manufacturing Limited.

1999
2002

Caiff y ffatri ei gwerthu i International Rectifier, sef cwmni technoleg rheoli pŵer o America.

2002
2015

Daw International Rectifier a’r ffatri yn rhan o Infineon Technologies.

2015
2017

Mae Infineon yn gwerthu’r ffatri i Neptune 6 a gelwir y safle yn ‘Newport Wafer Fab’.

2017
2021

Caiff y cyfleuster ei werthu i Nexperia, cwmni o Tsiena sydd â’i bencadlys yn yr Iseldiroedd.

2021
Tachwedd 2022

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi gorchymyn i Nexperia werthu ei fuddiant am resymau diogelwch cenedlaethol.

Tachwedd 2022
Tachwedd 2023

Mae Vishay, gweithgynhyrchwr sydd â’i bencadlys yn yr Unol Daleithiau, yn cytuno i brynu buddiant Nexperia yn Newport Wafer Fab, gan esgor ar bennod newydd a buddsoddiad newydd yn y cyfleuster.

Tachwedd 2023
2030 ymlaen

Mae Vishay wedi ymrwymo i Newport Wafer Fab yn y tymor hir. Rhagwelwn y byddwn yn buddsoddi mewn cylchoedd o ugain mlynedd fan leiaf. Trwy fuddsoddi yn y gwaith o gynhyrchu technolegau newydd, credwn fod gan Newport Wafer Fab y potensial i esgor ar fuddion sylweddol i economi ehangach Casnewydd a Chymru.

2030 ymlaen

Ynglŷn â Vishay
Mae Vishay yn gweithgynhyrchu un o bortffolios mwyaf y byd o ran lled-ddargludyddion arwahanol a chydrannau electronig goddefol sy’n hanfodol i ddyluniadau arloesol mewn marchnadoedd modurol, diwydiannol, cyfrifiadurol, defnyddwyr, telathrebu, milwrol, awyrofodol a meddygol. Gan wasanaethu cwsmeriaid ledled y byd, mae Vishay yn gyfystyr â DNA technoleg (DNA of tech®). Mae Vishay Intertechnology, Inc. yn Gwmni Fortune 1,000 a restrir ar Farchnad Stoc Efrog Newydd (VSH). Ceir rhagor o wybodaeth am Vishay ar www.Vishay.com.