Mae Vishay yn croesawu adroddiadau sy’n tynnu sylw at gryfderau’r sector lled-ddargludyddion
Mehefin 2026
Croesawodd Vishay Casnewydd gyhoeddi dau adroddiad sy’n tanlinellu pwysigrwydd strategol y sector lled-ddargludyddion i wytnwch economaidd, sofraniaeth gweithgynhyrchu a thwf diwydiannol y dyfodol yn y DU.
Tynna’r adroddiad sylw at raddfa, effaith a photensial y sector lled-ddargludyddion yn y dyfodol yn Ne Cymru a ledled y DU, wrth atgyfnerthu pwysigrwydd buddsoddiad parhaus mewn galluoedd gweithgynhyrchu domestig, sgiliau, arloesedd a datblygu cadwyni cyflenwi.
Dengys Adroddiad Effaith Cronfa Cryfder mewn Lleoedd (SIPF) 2026 CSconnected gyfraniad sylweddol clwstwr lled-ddargludyddion De Cymru, sydd bellach yn cynnal £436 miliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) Cymru a mwy na 3,100 o swyddi ledled Cymru – y mwyafrif ohonynt yn swyddi hynod fedrus sy’n talu’n dda. Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at gynnydd mewn ymchwil, gweithgynhyrchu, datblygu sgiliau a thwf cadwyni cyflenwi, gan gryfhau enw da De Cymru fel prif hwb lled-ddargludyddion.
Caiff y canfyddiadau eu cryfhau gan Astudiaeth y Sector Lled-ddargludyddion 2026 Llywodraeth y DU, sy’n nodi twf parhaus a phwysigrwydd strategol diwydiant lled-ddargludyddion y DU. Noda’r astudiaeth bod lled-ddargludyddion yn sail i farchnadoedd byd-eang gwerth mwy na $10 triliwn, gyda gwerthiannau o led-ddargludyddion yn fyd-eang yn cyrraedd $796 biliwn yn 2025. Darganfu hefyd bod sector lled-ddargludyddion dynodedig y DU yn cynhyrchu £10.6 biliwn mewn refeniw, yn cyfrannu £7.5 biliwn mewn GVA ac yn cyflogi mwy na 16,000 o bobl yn uniongyrchol yn 2025.
Yn bwysig, mae’r astudiaeth yn adnabod cyfleoedd sylweddol i’r DU gael cyfran fwy o farchnad lled-ddargludyddion byd-eang cynyddol, wrth gydnabod De Cymru fel un o glystyrau lled-ddargludyddion allweddol y DU, oherwydd cryfder ei rhanbarth mewn gweithgynhyrchu ac uwch ddeunyddiau.
Gyda’i gilydd, dengys yr adroddiadau pam bod lled-ddargludyddion yn ganolog i ddyfodol economaidd a diwydiannol y DU. Maent yn hanfodol i sectorau strategol gan gynnwys amddiffyn, gweithgynhyrchu uwch, cyfathrebu, deallusrwydd artiffisial ac ynni glân. Mewn marchnad fyd-eang sy’n fwyfwy toredig a chystadleuol, mae gallu gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion domestig yn hanfodol i wytnwch cenedlaethol, diogelwch y gadwyn gyflenwi a sofraniaeth gweithgynhyrchu.
Fel cyfleuster gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion mwyaf y DU, mae Vishay Casnewydd – ochr yn ochr â chlwstwr lled-ddargludyddion De Cymru – yn chwarae rhan ganolog yn y gallu cenedlaethol hwnnw. Mae buddsoddiad y cwmni o £250 miliwn, a ddarparwyd mewn partneriaeth â Llywodraethau Cymru a’r DU, yn cryfhau sylfaen lled-ddargludyddion y DU wrth gefnogi dros 500 o swyddi newydd a chreu cyfleoedd hirdymor ar draws y gadwyn gyflenwi ehangach.
Dywedodd Sam Evans, Cyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd a Materion Allanol yn Vishay Casnewydd:
“Mae’r adroddiadau hyn yn tynnu sylw at y cynnydd sydd wedi’i wneud ar draws y sector lled-ddargludyddion yn Ne Cymru a’r DU yn ehangach. Maent yn dangos gwerth buddsoddiad parhaus mewn arloesedd, sgiliau a gallu gweithgynhyrchu, ac yn atgyfnerthu pwysigrwydd parhau i gefnogi sector sy’n gynyddol hanfodol i dwf economaidd, datblygiad technolegol a gwytnwch cenedlaethol.
Mae Vishay wedi ymrwymo i gefnogi uchelgais y DU i dyfu ei sector lled-ddargludyddion, cryfhau gallu gweithgynhyrchu domestig a sicrhau bod y DU mewn sefyllfa dda i achub ar y cyfleoedd a gyflwynir gan alw cynyddol byd-eang.”
About Vishay
Vishay manufactures one of the world’s largest portfolios of discrete semiconductors and passive electronic components that are essential to innovative designs in the automotive, industrial, computing, consumer, telecommunications, military, aerospace, and medical markets. Serving customers worldwide, Vishay is The DNA of tech®. Vishay Intertechnology, Inc. is a Fortune 1,000 Company listed on the NYSE (VSH). More on Vishay at www.Vishay.com.
Forward Looking Statement
Statements contained herein that relate to the Company’s future performance, including capital investment, capacity expansion and cash flow generation, are forward-looking statements within the safe harbor provisions of Private Securities Litigation Reform Act of 1995. Words and expressions such as “will,” “expect,” “focus,” “intend,” “committed, “goal” or other similar words or expressions often identify forward-looking statements. Such statements are based on current expectations only, and are subject to certain risks, uncertainties and assumptions, many of which are beyond our control. Should one or more of these risks or uncertainties materialize, or should underlying assumptions prove incorrect, actual results, performance, or achievements may vary materially from those anticipated, estimated or projected. Among the factors that could cause such material variations include: that the fab will not be integrated successfully into the Company’s overall business; that the expected benefits of the acquisition may not be realized; that the fab’s standards, procedures and controls will not be brought into conformance within the Company’s operation; difficulties in transitioning and retaining fab employees following the acquisition; difficulties in consolidating facilities and transferring processes and know-how; the diversion of our management’s attention from the management of our current business; risks of foreign operations, including excessive operation costs, labor shortages, changes in tax rates; changes in foreign currency exchange rates; uncertainty related to the effects of changes in foreign currency exchange rates; difficulties in new product development; changes in U.S. or foreign trade regulations and tariffs, and uncertainty regarding the same; changes in applicable domestic and foreign tax regulations, and uncertainty regarding the same; and other factors that are set forth in our filings with the Securities and Exchange Commission, including our annual reports on Form 10-K and our quarterly reports on Form 10-Q. We undertake no obligation to publicly update or revise any forward-looking statements, whether as a result of new information, future events or otherwise.
The DNA of tech® is a trademark of Vishay Intertechnology.