Vishay yn cefnogi datblygu talent lled-ddargludyddion y dyfodol yng Nghymru
Tachwedd 2026
Mae Cynllun Swyddi Digidol a Thechnolegau (Hydref 2026) newydd ei gyhoeddi gan y Llywodraeth yn tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu’r gweithlu medrus sydd ei angen er mwyn cefnogi twf y DU yn y dyfodol mewn technolegau uwch, gan gynnwys lled-ddargludyddion. Mae’r cynllun yn nodi sut y gall y llywodraeth a diwydiant gydweithio i greu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ac atgyfnerthu llwybrau i mewn i yrfaoedd technoleg.
Mae’n gosod uchelgais i gefnogi 200,000 o gyfleoedd lefel mynediad digidol a thechnoleg, gan gynnwys prentisiaethau, dros y degawd nesaf, wrth dynnu sylw at brinder blynyddol rhagweladwy o oddeutu 2,100 o weithwyr yn y sector lled-ddargludyddion. Mae’n adnabod prinder penodol mewn gweithgynhyrchu a pheirianneg proses a thechnegwyr lled-ddargludyddion ac mae’n cydnabod bod de Cymru’n ardal gyda bylchau sgiliau lled-ddargludyddion penodol. Mae’r Cynllun hefyd yn tynnu sylw at yr angen am gydweithredu mwy agos rhwng cyflogwyr a phrifysgolion er mwyn sicrhau bod hyfforddiant yn adlewyrchu gofynion y diwydiant yn well, gyda chyflogwyr yn cael eu hannog i gynnig prentisiaethau, lleoliadau a phrofiad gwaith ymarferol.
Yn Vishay Casnewydd, mae datblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent lled-ddargludyddion yn ganolog i fuddsoddiad y cwmni mewn pobl a dyfodol gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru. Mae Vishay yn gweithio’n agos â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, gan gefnogi ymchwilwyr PhD a pheirianwyr graddedig a helpu i gysylltu ymchwil academaidd gyda phrofiad ymarferol mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion. Mae’r cwmni hefyd yn cefnogi gweithwyr i ymgymryd â chymwysterau peirianneg ymlaen at lefel Meistr, ochr yn ochr â rhaglen brentisiaethau sy’n datblygu sgiliau technegol arbenigol o fewn peirianneg a gweithgynhyrchu. Bydd cyfleoedd dysgu a datblygu ehangach yn helpu gweithwyr i barhau i adeiladu eu harbenigedd a symud ymlaen drwy gydol eu gyrfaoedd. Cafodd yr ymrwymiad hwn ei amlygu yn ystod ymweliad Gorffennaf 2026 gan Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, wnaeth gyfarfod prentisiaid Vishay a chlywed am eu profiadau o adeiladu gyrfaoedd yn y sector lled-ddargludyddion.
Mae Vishay hefyd yn gweithio gydag ysgolion a phartneriaid yn y gymuned er mwyn annog pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Trwy ei bartneriaeth gyda Chlwb Rygbi’r Dreigiau, mae’r cwmni’n cefnogi addysg STEM ac yn helpu i gyflwyno pobl ifanc i’r cyfleoedd sydd ar gael mewn gweithgynhyrchu uwch. Ym mis Mawrth 2026, cefnogodd Vishay weithdai ymarferol ar gyfer dros 500 o ddisgyblion o naw ysgol leol fel rhan o Ŵyl STEM Clwb Rygbi’r Dreigiau yn ystod Wythnos Gwyddoniaeth Prydain.
Mae Vishay yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda phrifysgolion, darparwyr addysg, y llywodraeth a phartneriaid yn y gymuned er mwyn datblygu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen ar gyfer dyfodol gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion. Drwy brentisiaethau, partneriaethau ymchwil, datblygu gweithwyr ac allgymorth STEM, mae Vishay yn helpu i atgyfnerthu’r gronfa dalent a chefnogi safle de Cymru fel canolfan flaenllaw ar gyfer gweithgynhyrchu uwch a lled-ddargludyddion.
About Vishay
Vishay manufactures one of the world’s largest portfolios of discrete semiconductors and passive electronic components that are essential to innovative designs in the automotive, industrial, computing, consumer, telecommunications, military, aerospace, and medical markets. Serving customers worldwide, Vishay is The DNA of tech®. Vishay Intertechnology, Inc. is a Fortune 1,000 Company listed on the NYSE (VSH). More on Vishay at www.Vishay.com.
Forward Looking Statement
Statements contained herein that relate to the Company’s future performance, including capital investment, capacity expansion and cash flow generation, are forward-looking statements within the safe harbor provisions of Private Securities Litigation Reform Act of 1995. Words and expressions such as “will,” “expect,” “focus,” “intend,” “committed, “goal” or other similar words or expressions often identify forward-looking statements. Such statements are based on current expectations only, and are subject to certain risks, uncertainties and assumptions, many of which are beyond our control. Should one or more of these risks or uncertainties materialize, or should underlying assumptions prove incorrect, actual results, performance, or achievements may vary materially from those anticipated, estimated or projected. Among the factors that could cause such material variations include: that the fab will not be integrated successfully into the Company’s overall business; that the expected benefits of the acquisition may not be realized; that the fab’s standards, procedures and controls will not be brought into conformance within the Company’s operation; difficulties in transitioning and retaining fab employees following the acquisition; difficulties in consolidating facilities and transferring processes and know-how; the diversion of our management’s attention from the management of our current business; risks of foreign operations, including excessive operation costs, labor shortages, changes in tax rates; changes in foreign currency exchange rates; uncertainty related to the effects of changes in foreign currency exchange rates; difficulties in new product development; changes in U.S. or foreign trade regulations and tariffs, and uncertainty regarding the same; changes in applicable domestic and foreign tax regulations, and uncertainty regarding the same; and other factors that are set forth in our filings with the Securities and Exchange Commission, including our annual reports on Form 10-K and our quarterly reports on Form 10-Q. We undertake no obligation to publicly update or revise any forward-looking statements, whether as a result of new information, future events or otherwise.
The DNA of tech® is a trademark of Vishay Intertechnology.